Trefnir Sioe Frenhinol Cymru gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a ffurfiwyd ym 1904. Fe’i cynhelir ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, yn Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, Powys, Canolbarth Cymru. Mae’r sioe yn para am bedwar diwrnod, roedd 2022 yn nodi’r sioe gyntaf ers Pandemig COVID-19. Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, ac arweiniodd ei llwyddiant at ddatblygu maes parhaol y sioe yn Llanelwedd, a ddefnyddiwyd gyntaf yn 1963.
Mae Girlguiding Cymru wedi bod yn rhan o Sioe Frenhinol Cymru ers blynyddoedd ac roedd eleni yn gyfle i ddychwelyd i’r sioe yn dilyn y pandemig. Girlguiding Clwyd oedd sir sylw’r sioe. Hyfryd oedd gweld criw mawr o Girlguiding Clwyd yn darparu eu cefnogaeth.
Ymunodd aelodau Girlguiding o hyd a lled Cymru â nhw. Cynhaliwyd Sioe Frenhinol Cymru 2022 rhwng dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Iau 21 Gorffennaf ar faes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd. Roedd tîm Girlguiding Cymru ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2022 yn cynnwys 60 o wirfoddolwyr Girlguiding, Guides, Rangers, Arweinwyr Ifanc ac Arweinwyr. Roeddem yn sefyll allan gyda’n crysau-t pinc llachar a’n neckerchiefs.
Roedd llawer o’r gwirfoddolwyr yn gweithio tuag at Wobr Dug Caeredin a Gwobr Queens Guide.