Y Gwobr Queens Guide yw’r wobr uchaf y gallwch weithio tuag ati yn Guiding!
Mae ar gael i holl aelodau Rangers 16-18 oed yn ogystal ag oedolion sy’n aelodau 18-30 oed.
Mae ymgymryd â’r wobr yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau, wrth gyfrannu at eich cymuned leol ac Guiding. Rhaid cwblhau’r gwobr cyn pen tair blynedd o’r dyddiad cychwyn neu cyn eich pen-blwydd yn 31, pa un bynnag sydd gyntaf.
Mae’r wobr yn hyblyg a gall gyd-fynd â’ch ymrwymiadau a’ch bywyd, os ydych chi’n meddwl y bydd angen seibiant arnoch chi oherwydd eich bod chi’n astudio ar gyfer arholiadau, yn dechrau yn y brifysgol, yn chwilio am swydd gallwch chi gynnwys seibiant wedi’i gynllunio yn eich cynllyn 3 blynedd.
Mae gwobr Queens Guide yn gyflawniad gwych a bydd eich cyflawniadau yn creu argraff ar ddarpar gydlogwyr a sefydliadau addysg bellach. Trwy ymgymryd â’r wobr, mae’n dangos eich bod wedi herio’ch hun a chyflawni’ch nodau.
I ddod yn Queens Guide, rhaid i gyfranogwr gwblahau pob un o bum adran y wobr o fewn 3 blynedd, oni bai bod toriad wedi’i gynllunio.
Gwasanaeth o fewn Guiding – cymryd rôl weithredol wrth arwain ar ystod o wahanol lefelau
Her awyr agored – adeiladu eich gwaith tima’ch sgiliau arwain mewn lleoliad awyr agored
Datblygu sgiliau personol – cychwyn sgil newydd neu datblygu sgil sy’n bodoli dros o leiaf 60 awr dros 12 mis
Gweithredu cymunedol – chwarae mwy o ran yn y byd o’ch cwmpas trwy ymgymryd â phrosiect ymarferol ac ymchwil
Preswyl – treulio dwy nosol a tri diwrnod oddi cartref gyda phobl newydd
Gwobr Queens Guide a Gwobr DofE
Mae llawer o agweddau or Gwobr Queens Guide ar DofE Aur yn cyd-gloi, sy’n golygu, os ydych chi’n cwblhau’r ddwy wobr, y gallech chi wneud un preswyl i gwmpasu’r ddwy wobr.
I ddechrau ar wich Gwobr Queens Guide –
Cysylltwch â’ch Cynghorydd Queens Guide eich Sir- Gall eich arweinydd ddweud wrthych pwy yw hwn
Dewiswch mentor i’ch wobr – dyma rywun a all eich cefnogi chi
Cwblhewch eich cynllun