Adnodd i’ch helpu i aros yn ddiogel yn y dŵr, arno ac o’i amgylch

Yn 2024, bydd yr RNLI yn dathlu ei 200 mlwyddiant ac, i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr, mae’r elusen sy’n achub bywydau yn lansio’r adnodd hwn ar y cyd â Girlguiding Cymru.

Mae Girlguiding Cymru a’r RNLI wedi ffurfio partneriaeth i greu adnodd diogelwch dŵr ar gyfer Rainbows, Brownies, Guides a Rangers sy’n canolbwyntio ar y 4 neges diogelwch dŵr allweddol y mae’r RNLI wedi’u mabwysiadu yn rhan o’r Cod Diogelwch Dŵr.

Mae addysgu pobl ifanc a’u teuluoedd am ddiogelwch dŵr yn allweddol i achub bywydau yn y dŵr, arno ac o’i amgylch, ac mae’n rhan ganolog o waith atal yr RNLI. Po fwyaf y bobl ifanc y gallwn eu cyrraedd gyda’n negeseuon diogelwch dŵr, y mwyaf o fywydau y gallwn eu hachub yn awr ac yn y dyfodol. A chithau’n wirfoddolwr Girlguiding, mae cyfle gwirioneddol i chi wneud gwahaniaeth a fydd yn achub bywydau.

Os hoffech drefnu ymweliad ar gyfer eich uned, cysylltwch â’r RNLI drwy e-bost: Watersafety_west@rnli.org.uk

Bathodyn her Mayday yr RNLI


Y bathodyn

Pan fyddwch wedi cwblhau’r pecyn, gall eich merched ennill bathodyn arbennig yr RNLI/Girlguiding Cymru.

Diolch!

Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Girlguiding De-orllewin Lloegr am eu caniatâd hael i atgynhyrchu pecyn Mayday, Mayday yr RNLI. Rydym yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd a’u cymorth yn fawr.