Yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2023- 2024 gan Girlguiding Cymru

Mae Girlguiding Cymru yn gyffrous i ddadorchuddio ei Adroddiad Blynyddol 2023-2024, sy’n amlygu blwyddyn o gyflawniadau, twf ac effaith gymunedol. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’n gweithgareddau, gan gynnwys ffeithiau a ffigurau allweddol sy’n dangos ein hymroddiad i rymuso merched ledled Cymru.

Mae’r Prif Gomisiynydd Bev Martin yn myfyrio ar y flwyddyn ynghyd â’n Llywydd Tori James sy’n rhannu ei dirnadaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ein llwyddiant wrth gyrraedd y targedau a osodwyd gan y pedair strategaeth

Girlguiding, gan ddangos ein hymrwymiad i ehangu cyfleoedd i ferched a menywod ifanc. Rydym hefyd yn falch o gynnwys adroddiad a lluniau ar gyfer pob sir. Mae ffigurau ariannol allweddol ynghyd a ffigurau twf a chadw hefyd wedi’u cynnwys. Wrth i ni edrych ymlaen, mae’r adroddiad hwn yn dyst i’n cyflawniadau a dyfodol disglair Girlguiding Cymru. Rydym yn gwahodd pob aelod a chefnogwr i ddarllen yr adroddiad llawn.


Mae Guiding yng Nghymru wedi ymrwymo i helpu merched a menywod ifanc i ddod o hyd i’w llais a meithrin sgiliau a hyder – gan eu hysbrydoli i ddarganfod y gorau ynddynt eu hunain a’u grymuso i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned. Rydym yn cyflawni hyn trwy gyflwyno rhaglen gyffrous, amrywiol o weithgareddau dan arweiniad merched trwy ystod o ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n cefnogi datblygiad a llesiant ein haelodaeth, a hwylusir y cyfan gan arweinwyr oedolion y gellir ymddiried ynddynt sy’n ystyriol o pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru.
— Bev Martin - Prif gomisiynydd Girlguiding Cymru