Ein gweledigaeth chwaraeon

Yn Girlguiding Cymru, rydym yn cynnig ystod o wahanol gyfleoedd a phrofiadau i'n merched archwilio, magu hyder a datblygu sgiliau newydd. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi partneru â Chwaraeon Cymru i gynnig cyfleoedd helaeth ac unigryw i'n haelodau gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol / chwaraeon yng Nghymru. Credwn fod ychwanegu'r anturiaethau newydd hyn i'r rhaglen gyfredol yn caniatáu i'n haelodau ddatblygu eu sgiliau ym mhob agwedd ar eu taith yn Girlguiding.

Mae ein cynllun ‘Rhowch gynnig arni’ yn caniatáu i’n haelodau brofi / cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol chwaraeon, gyda’r bonws o gyflawni ystod o fathodynnau chwaraeon.

59486892_2265001116888054_4673102861054246912_o.jpg

Gallwch ddod o hyd i'n holl fathodynnau chwaraeon gwahanol isod

girlguidingcymru.org.uk/sports-our-vision

Am ein holl gyfleoedd chwaraeon, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau.

Rydym yn cydnabod gwerth chwaraeon a pha mor bwysig yw darparu amrywiaeth o brofiadau i'n haelodau ifanc. Rydyn ni am i ferched gael yr un cyfleoedd mewn chwaraeon â dynion. Mae partneriaethau effeithiol wrth wraidd ein cenhadaeth chwaraeon. Rydym yn hynod werthfawrogol o weithio gydag ystod o sefydliadau cenedlaethol sy'n weithgar wrth newid y gêm i ferched. Yn Girlguiding Cymru rydym yn creu cyfleoedd arwain i'r merched eu hunain fel hyfforddwyr, mentoriaid cymheiriaid ac arweinwyr ifanc.

Rydyn ni'n helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched yng Nghymru.

EIN PARTNERIAU CHWARAEON ALLWEDDOL:

  • Ymddiriedolaeth CBDC

  • WRU

  • Pêl-rwyd Cymru