Neges Nadolig gan Bev, Sarah-Jane ac Alice

Mae 2022 wedi gweld unedau yn dod yn ôl i gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac yn dychwelyd i wyliau, gwersylloedd a hyd yn oed teithiau rhyngwladol.

Mae ein Prif dîm wedi bod yn brysur yn mynychu digwyddiadau ac yn ymweld â siroedd, yn cyflwyno gwobrau ac yn cwrdd â phobl newydd. Fe wnaethom lansio heriau newydd, cael diwrnodau hwyl i Rainbows, Brownies a Guides, cynnal digwyddiadau chwaraeon a chynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf ers blynyddoedd lawer.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi gwerthiant Broneirion, penderfyniad trist ond angenrheidiol. Mae gan bob un ohonom atgofion melys ond mae angen edrych ymlaen at y cyfleoedd newydd cyffrous y bydd y gwerthiant yn ein galluogi i'w cael.

Gan edrych at 2023, mae gennym ni teithiau rhyngwladol Girlguiding Cymru, digwyddiadau a heriau wedi'u cynllunio ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â mwy o'n haelodau.

Hoffem ddiolch i'n staff sy'n gweithio'n galed am gadw popeth i fynd ac, wrth gwrs, hoffem ddiolch i'n holl arweinwyr am eu cefnogaeth barhaus, heboch chi, ni fyddai ddim Guiding, daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi'n ei wneud.

— Tîm Girlguiding Cymru