Mae ymgyrch Hinsawdd ac Amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru wedi dechrau

Dros y misoedd nesaf byddwn yn casglu barn pobl ifanc ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol/actif. Beth yw ystyriaethau cost, dibynadwyedd a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc? A beth am ffyrdd i gerdded a seiclo - oes digon ac a ydynt yn ddiogel? Dyna fydd ffocws yr ymgynghoriad hwn.

Cysylltwn felly i ofyn am eich cymorth i annog gymaint o bobol Ifanc a phosib i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael eu clywed.

Dyma’r ymgynghoriad i bobl ifanc: https://forms.office.com/e/AqXQVxXDjw
Ymgynghoriad i oedolion: https://forms.office.com/e/wEE2wnZ8mD


Byddem yn ddiolchgar pe byddech gystal â rholi os gallwch rhannu’r linc ar eich mewnrwyd yn eich Ysgol/ goleg a chyfryngau cymdeithasol chi neu/ ac eich Ysgol ogydd (ceir fwy o adnoddau i hyrwyddo’r ymgynghoriad yma).

Gallwch lawrlwytho copi o'r PowerPoint a'r sgript ar gyfer cynulliad yma https://we.tl/t-h7tvg6oGNH, mae'r ddolen hon yn para am wythnos ar ôl hynny cysylltwch â ni os nad ydych eisoes wedi ei lawrlwytho. Os dymunwch wahodd aelod o dîm Addysg y Senedd i’ch ysgol/ sefydliad i ddarparu sesiwn i’ch disgyblion ar y Senedd Ieuenctid, y Senedd a’r ymgynghoriad – cysylltwch gyda’r linell archebu ar: cysylltu@senedd.cymru